D
Cyd-gysylltydd Prosiectau
DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
Hwlffordd · gb
3h ago
95%
Strong
Job description
Rhif Cais y Swydd 9335 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Peiriannydd Cwmpas Cyflog £42,786.00 -£48,912.00 Lleoliad Cardigan Dyddiad cau ceisiadau Dydd Sul, 1 Tachwedd 2026 - 23:59 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Cydgysylltu portffolio o brosiectau cyfalaf i sicrhau’r ddarpariaeth ddiogel ac effeithlon o brosiectau adeiladu ar draws asedau dŵr a dŵr gwastraff yn eu hardal ddaearyddol ddynodedig. Bydd hyn yn cynnwys: • Bod yn atebol am gyflawniad rhaglenni gwaith a gynlluniwyd ac ymatebol o bryd i’w gilydd yn unol ag amserlen a ddiffiniwyd ymlaen llaw, a chostau targed y cytunwyd arnynt, a chymryd camau priodol i fynd i’r afael ag unrhyw lithriant • Fel Goruchwylydd Safle (NEC), monitro ac olrhain cyflawniad yn effeithiol a gallu cymryd camau priodol os bydd llithriant mewn rhaglen a rheoli costau contractwyr o dan amodau contract NEC • Sicrhau cydymffurfiad y Contractwr â’r Wybodaeth am y Gwaith, gan sicrhau eglurder cyfarwyddyd a bwriadau a bod y Rheolwr Prosiect yn ymwybodol o’r holl faterion sy’n ymwneud â’r contract • Sicrhau bod Rheolaethau Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau Rheoli Contractwyr priodol yn cael eu rhoi ar waith tra’n sicrhau bod pob prosiect yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol CDM • Arwain, cefnogi a sicrhau gweithio ar y cyd gydag aelodau o’r tîm dylunio cyfalaf, timau ystadau, gweithrediadau ac unrhyw randdeiliaid eraill i ddatblygu’r rhaglen Gyfalaf • Cydgysylltu’r ddarpariaeth o raglenni gwaith a gynlluniwyd y cytunwyd arnynt yn unol ag amserlen y cytunwyd arni, ond hefyd bod â’r ymrwymiad i ymateb i risgiau busnes brys, tra’n cymryd camau priodol i fynd i’r afael ag unrhyw lithriant • Cynorthwyo’r Rheolwr Prosiect gyda holl agweddau rheoli rhaglen a masnachol cyflawni cynllun, fel bod prosiectau yn cael eu cyflawni yn unol â chostau targed y cytunwyd arnynt. Os bydd gwaith ychwanegol neu na ragwelwyd yn codi, rhoi protocol rhybudd cynnar ar waith gan adrodd ar ddigwyddiadau iawndal fel y diffinnir gan y gyfres NEC o gontractau a sicrhau bod y Rheolwr Prosiect yn ymwybodol o’r holl broblemau • Trafod â pheirianwyr dylunio prosiect yn ystod y broses gyflawni gan roi adborth allweddol ar effeithiolrwydd y dyluniad ac unrhyw broblemau o ran adeiladu neu allu i’w weithredu • Trafod â chydweithwyr gweithredu i ddarparu cynlluniau ymatebol yn ôl y gofyn • Sicrhau y cydymffurfir â gweithdrefnau a phrosesau Dŵr Cymru ynghyd â pholisïau deddfwriaethol allweddol • Sicrhau bod prosesau caffael a chymeradwyo prosiectau yn cael eu dilyn fel nad oes unrhyw wariant nad yw’n cydymffurfio • Darparu cofnodion cywir, prydlon a chyfoes i’r Rheolwr Prosiect • Sicrhau bod yr holl ddogfennau a gweithdrefnau trosglwyddo prosiect yn gyflawn cyn cyflwyno tystysgrifau terfynol • Helpu i nodi technegau adeiladu arfer gorau ar gyfer peirianneg, a hysbysu am unrhyw ymddygiadau neu waith rhagweithiol o dan weithdrefn ‘achos y bu ond y dim iddo ddigwydd’ • Cyfrannu at ddadansoddiad ‘gwersi a ddysgwyd’ ar ôl cwblhau’r cynllun er mwyn sicrhau bod proses gwelliant parhaus yn cael ei rhoi ar waith • Sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth reoli gywir a phrydlon • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes Amdanoch chi Cefndir ym maes peirianneg ac addysg i lefel Tystysgrif Genedlaethol Uwch o leiaf Gwybodaeth am brofi a chomisiynu systemau wedi’u hawtomeiddio, a phrofiad o wneud hynny Gwybodaeth am Gontractau NEC a phrofiad ohonynt, yn enwedig swyddogaeth goruchwylydd safle Profiad a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys Rheoliadau CDM – Tystysgrif IOSH mewn Iechyd a Diogelwch Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Gallu i ddangos profiad masnachol a rheolaeth o gostau Sgiliau TG cryf Cyfathrebwr gwych â sgiliau dylanwadu cryf Gallu i weithio yn unol â therfynau amser rheoliadol a phrosiect tynn Gwybodaeth helaeth am y diwydiant dŵr a dŵr gwastraff Werth ei wybod Darperir lwfans car Efallai y bydd angen i ni gau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach, felly rydym yn eich annog i wneud cais yn brydlon Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr • Cynllun beicio i'r gwaith • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei f Pwy ydyn ni Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd. Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni. Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu. Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.