D
Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi
DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
Caerdydd · gb
3h ago
98%
Strong
Job description
Job Requisition Number 9338 Work Type Achlysurol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £13.45 / Hour Base Closing Date Llanishen (Cardiff) - Multi-Site Café Assistant Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys: Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes Amdanoch chi Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd! Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol. Werth ei wybod Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â Dŵr Cymru. Mae'r safle yn ymfalchïo yn yr adeilad Atyniad Ymwelwyr o'r radd flaenaf gyda bwyty ar gyfer 150, balconi gyda golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau tir a dŵr, man addysgu, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a Chaffi Carlam. …Dewch i ymuno â'n tîm a gweithio yn yr hafan werdd / las hon sydd lai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Eisiau gweld mwy? Ewch yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/ Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT © Dŵr Cymru Cyf 2019.