Back to all jobs
D

Syrfëwr Meintiau

DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Abertawe · gb 8h ago

Job description

Rhif Cais y Swydd 9526 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Rheoli Costau Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00 Lleoliad Clydach Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw) Eisiau defnyddio eich profiad masnachol a’ch profiad o gontractau NEC mewn rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws ein rhwydwaith dŵr gwastraff? Ymunwch â Dŵr Cymru i’n helpu i ddarparu contractau effeithiol sy’n cynnig gwerth am arian ac sy’n cefnogi gwasanaeth hanfodol i’n cwsmeriaid a’n cymunedau. Yr hyn y byddwch yn gyfrifol amdano Fel ein Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw), byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli ein contractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fasnachol, gan weithio’n agos gyda thimau gweithredol, darparwyr gwasanaethau a chydweithwyr ar draws y busnes. Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys: Cefnogi’r gwaith o gyflawni a gwella contractau’r Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion statudol, rheoleiddiol, ariannol a llywodraethu. Darparu cyngor a chymorth masnachol i dimau gweithredol, gan helpu i nodi cyfleoedd, datrys ymholiadau a sefydlu arferion gorau. Gwerthuso taliadau a chostau tasgau, codi tystysgrifau talu a chefnogi’r gwaith o asesu a gweinyddu digwyddiadau digolledu. Datblygu a chynnal modelau ariannol ar gyfer gweithgareddau Trosglwyddo Carthffosydd Preifat a Draeniau Ochrol (PST), gan sicrhau bod ffynonellau data ategol yn gywir ac wedi’u dogfennu’n glir. Monitro costau a gweithgarwch contractau yn erbyn rhagolygon, gan gefnogi croniadau misol cywir, adroddiadau a dyrannu costau. Olrhain dyddiadau contractiol allweddol, taliadau a mesurau perfformiad er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau contractiol yn cael eu bodloni. Cynnal ymweliadau safle pan fo angen i wirio gwaith sydd wedi’i gwblhau a chefnogi cofnodi gwybodaeth yn gywir drwy SAP a systemau perthnasol eraill. Cynhyrchu a chyflwyno gwybodaeth gywir am gontractau a chyllid, gan gynnwys adroddiadau misol ar gostau, lefelau gweithgarwch a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA), gan gefnogi diwylliant o welliant parhaus ac arferion gorau. Amdanoch chi Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau masnachol a dadansoddol cryf, sy’n gallu gweithio’n hyderus gyda gwybodaeth ariannol a chytundebol a meithrin perthnasoedd effeithiol gyda thimau gweithredol a darparwyr gwasanaethau. Bydd gennych: Brofiad o weithio gyda chontractau NEC. Byddai profiad o gontractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fuddiol, er nad yw hyn yn hanfodol. Sgiliau dadansoddi cryf, gyda’r gallu i ddehongli a chyflwyno gwybodaeth ariannol i gefnogi penderfyniadau busnes effeithiol. Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid da, gyda’r hyder i gyflwyno gwybodaeth i dimau rheoli. Y gallu i ddehongli a chymhwyso gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol. Sgiliau TG cryf, yn enwedig Excel, Word a PowerPoint. Trwydded yrru lawn a’r gallu i deithio’n rheolaidd yn unol â gofynion y busnes. Werth ei wybod Lleoliad: Gall y rôl hon gael ei lleoli naill ai yn Hwb y De-ddwyrain neu Hwb y De-orllewin, a fydd yn cael ei drafod yn ystod y broses gyfweld yn seiliedig ar eich lleoliad presennol. Patrwm gweithio: Gweithio hybrid, gydag o leiaf dri diwrnod yr wythnos yn cael eu treulio ar y safle neu yn y swyddfa a dau ddiwrnod yn gweithio o bell. Teithio: Bydd angen teithio’n rheolaidd i safleoedd yn y rhanbarth y cytunwyd arno. Gellir hawlio treuliau milltiroedd busnes a chostau tanwydd yn unol â pholisi’r cwmni. Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan! Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Ydych chi'n meddwl mewn ffordd fasnachol? Allwch chi reoli portffolio o brosiectau cyfalaf cymhleth? Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn ein tîm peirianneg a byddwch chi'n gwneud y canlynol: - darparu gwasanaeth proffesiynol, masnachol a rheoli costau mewn sawl prosiect - rhoi cymorth a chyngor i dîm o reolwyr prosiectau - paratoi archebion gwaith - dilysu a chytuno ar werthoedd contractau a chostau targed gyda chontractwyr fframweithiau - cynnal dilysiadau misol ar gyfer gwaith a gwblhawyd Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Similar open jobs